Skip to main content

Ers dros 25 mlynedd bellach, mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion wedi cynnal y Gwobrau Chwaraeon Rhyngwladol blynyddol i gydnabod ac anrhydeddu cyflawniadau pobl a chyfraniad eithriadol i chwaraeon.

Rydym nawr yn y broses o baratoi ar gyfer gwobrau 2024 a fydd yn cael eu cynnal yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron ddydd Gwener Gorffennaf 5ed.

Mae categorïau’r gwobrau a’r dyddiadau cau wedi’u rhestru isod. Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth, telerau ac amodau, a ffurflen enwebu ar waelod y dudalen.

Defnyddiwch y ffurflen enwebu i ddweud ychydig mwy wrthym am yr enwebai a'u cyflawniadau a'i dychwelyd at Matthew.Roebuck@Ceredigion.gov.uk.

Yna byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw'r enwebiad yn llwyddiannus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwobrau mae croeso i chi gysylltu â ni.

Hyfforddwr/aig y Flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Ryngwladol

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Iau Talentog

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Arwr/es Tawel

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Gwirfoddolwr/aig Chwaraeon i Bobl Anabl y Flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Gwobr Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: Mai 17eg 2024

Ffurflen Enwebu Gwobrau Chwaraeon Ceredigion

Categorïau Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2024

Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i Matthew.Roebuck@ceredigion.gov.uk.